top of page
ANIM_POSTER_2021_banner_logo_png.png

Dyma gyhoeddi gwaith cyffrous ar y cyd rhwng Gŵyl Animeiddio Caerdydd (CAF) a Gŵyl Animeiddio Ryngwladol Cape Town (CTIAF), sy'n dathlu animeiddio yng Nghymru a De Affrica gyda gŵyl ar-lein wythnos-o-hyd a fydd yn cynnwys sgrinio ffilmiau byrion fydd wedi'u curadu, gweithdai a sesiynau holi ac ateb, gyda chefnogaeth Cronfa Cydweithredu Digidol y Cyngor Prydeinig.

 

Dywedodd Dianne Makings, Cyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Ryngwladol Cape Town:
"Rydym yn gyffrous i gydweithio â Gŵyl Animeiddio Caerdydd a rhannu creadigrwydd ein cynrychiolwyr talentog o'r ddwy wlad. Mae animeiddio yn ddiwydiant cynyddol fyd-eang a chystadleuol ac nid ydych byth yn gwybod o ble y daw eich cydweithydd nesaf. Mae gan Gymru hanes hir o greu cynnwys animeiddio IP gwreiddiol, ond dim ond newydd drosglwyddo o ddiwydiant gwasanaeth i greu ein IP ein hunain y mae De Affrica. Mae cydweithio ar wyliau yn gyfle i stiwdios a gwneuthurwyr ffilmiau annibynnol gyfnewid syniadau am fusnes a chelf."

 

Mae'r ddwy ŵyl yn cael eu dwyn ynghyd drwy waith celf poster newydd sbon a grëwyd gan yr animeiddiwr a’r darlunydd Becky Peel - mae cymeriadau hyfryd a lliwgar ei phoster CAF 2020 wedi'u cysylltu drwy borth hudol sy'n dod â nhw'n gyffrous drwodd i ganfod harddwch naturiol Mynydd y Bwrdd, De Affrica.

 

ANIM_POSTER_2021_landscape_logo_jpeg.png

Bydd yr ŵyl gydweithredol yn arddangos ffimliau byrion animeiddiedig Cymreig ac Affricanaidd, a sgriniwyd gynt mewn digwyddiadau CAF a CTIAF yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mewn dwy sesiwn sgrinio fydd wedi'u curadu. Yn y casgliad hwn gallwch ddisgwyl celf unigryw, straeon i godi calon, animeiddio arbrofol a disgyblaethau amrywiol. Bydd modd gwylio’r sgrinio unrhyw bryd yn ystod yr ŵyl rhwng dydd Llun 12 Ebrill a dydd Sul 18 Ebrill, a byddant hefyd yn cael eu sgrinio mewn partis gwylio byw lle gall cynulleidfaoedd wylio gyda'i gilydd, cymeradwyo a chymdeithasu yn y sgwrs fyw.

Yn Ne Affrica, bydd cyfle hefyd i weld y sgrinio ffilmiau byrion yn y Sinema Go Drive-In yn Salt River, gan roi cyfle i gynulleidfaoedd yn Cape Town wylio'r ffilmiau byrion ar y sgrin fawr yn yr awyr agored.
 

Yn ymuno â'r ŵyl o Gymru bydd y cyfarwyddwr a’r animeiddiwr Joanna Quinn a'r sgriptiwr ffilmiau a’r cynhyrchydd Les Mills, yn sgwrsio â'r cynhyrchydd Helen Brunsdon, wrth iddynt fynd â chynulleidfaoedd y tu ôl i lenni eu ffilm fer newydd sbon,, 'Affairs of the Art', trafod gwneud ffilmiau annibynnol yng Nghymru, edrych yn ôl ar eu taith ym myd animeiddio ac ateb cwestiynau’r gynulleidfa mewn sesiwn holi ac ateb fyw.
 

Mae diddordeb byd-eang enfawr mewn straeon Affricanaidd, mae cynulleidfaoedd yn ysu am gynnwys sy'n dathlu diwylliannau unigol, wedi'u gosod yng nghyd-destun y cysylltiadau byd-eang sy’n ein dwyn ni ynghyd.

Bydd y gwneithuriwr ffilimau Lesego Vorster yn trafod heriau creu straeon Affricanaidd penodol tra'n parhau i fod yn hygyrch i gynulleidfaoedd byd-eang. Mewn sgwrs â'r cynhyrchydd Dianne Makings, byddant yn rhannu sawl prosiect personol maent yn gobeithio y byddant yn cyflawni hynny.

 

Mae gwneud ffilmiau annibynnol yn cyflwyno gymaint o boddhad ag o heriau; o Dde Affrica bydd Naomi van Niekerk, gwneuthurwr ffilmiau annibynnol profiadol, arobryn, a Kay Carmichael, artist bwrdd stori sefydledig a phoblogaidd, sydd wrthi’n cynhyrchu ei ffilm fer gyntaf, 'Troll Girl', yn trafod y gorau a’r gwaethaf o’u prosiectau, yr hyn sy'n eu hysgogi'n bersonol i barhau i greu celf a'r hyn sy'n eu hysbrydoli, mewn trafodaeth a sesiwn holi ac ateb fyw.

 

Bydd digwyddiadau teulu-gyfeillgar amrywiol yn cael eu cynnal drwy gydol yr ŵyl, gan gynnwys dau weithdy animeiddio; bydd yr artist animeiddio stop-symud Affricanaidd Dina A. Amin yn dysgu teuluoedd i animeiddio gyda'i gilydd gartref gan ddefnyddio eitemau cartref bob dydd, a bydd y gwneuthurwr ffilmiau o Gymru, Efa Blosse-Mason, yn archwilio technegau torri papur 2D a sut i greu animeiddiad byr.

Mae timau CAF a CTIAF hefyd wedi cydweithio i guradu sesiwn sgrinio awr-o-hyd gyffrous o ffilmiau byrion animeiddedig sy'n addas i'r teulu cyfan - gan arddangos rhai o'r ffilmiau teulu-gyfeillgar gorau o'r ddwy wlad.

 

Cefnogir cydweithrediad Gŵyl Animeiddio Caerdydd a Gŵyl Animeiddio Ryngwladol Cape Town gan Gronfa Cydweithredu Digidol y Cyngor Prydeinig, sy'n cefnogi partneriaethau diwylliannol y DU a thramor i ddatblygu ffyrdd digidol arloesol o gydweithio.

 

Bydd yr ŵyl yn rhedeg ar-lein rhwng dydd Llun 12 Ebrill a dydd Sul 18 Ebrill. Mae tocynnau unigol ar gyfer pob digwyddiad a sgrinio ar werth nawr. Ewch i https://watch.eventive.org/cafandctiaf am docynnau. Bydd tocynnau ar gyfer Sinema Go Drive-In ar werth ar blatfform Webtickets.

 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch Ŵyl Animeiddio Caerdydd ar Twitter, Facebook ac Instagram a chofrestrwch ar ein rhestr bostio i gael rhagor o ddiweddariadau a chyhoeddiadau wrth iddynt gael eu rhyddhau.

british_council_wide_alpha.png
ANIM_POSTER_fish_02.png
ANIM_POSTER_fish_01.png
bottom of page