LOVE BUGS
Q+A
Sunday 10 April 2022
4:00pm | Chapter Cinema 2
Free
Meet the host...
If you've visited Chapter recently, you'll have seen Sarah Taylor Silverwood's animated Art in the Bar exhibition, Love Bugs. This is your chance to see the work on the big screen, and hear more about it in a Q&A with the artist herself.
About the work
Love Bugs is the story of a busy landscape where creatures come together in scenes of intimacy, creativity, craft and industry.
Portraying stick insects, potter wasps, spiders, love bugs, silk worms and dung beetles in colourful hand drawn vignettes, Silverwood’s animations are informed by folklore, mythology, and heritage, reflecting on the way humans make sense of the hypnotic processes of the natural world.
Collaborating with Chapter-based composer, Samuel Barnes, Silverwood has been exploring manufactured simulations of natural sounds, to create an accompanying soundtrack that includes field records from gardens, allotments, Warley Woods and Snowdonia.
About the Artist
Sarah Taylor Silverwood is a visual artist who works with drawing. She makes public art works, animations, books, exhibitions, sculptures and textiles, often working in collaboration with other people. Recent solo projects include Daphne at The New Art Gallery Walsall (2019) and Aspex Gallery, Portsmouth (2020), and Crowd Show (2018) at NN Contemporary. She has been artist in residence at The British Consulate in Chicago (2014) and The University of Birmingham (2013). She is part of the co-operative, Modern Clay.
Os ydych chi wedi ymweld â Chapter yn ddiweddar, byddwch wedi gweld arddangosfa Celf yn y Bar animeiddiedig Sarah Taylor Silverwood, Love Bugs. Dyma’ch cyfle i weld y gwaith ar y sgrin fawr, a chlywed mwy amdano mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r artist ei hun.
Ynglŷn â’r gwaith
Stori yw Love Bugs am dirlun prysur lle mae creaduriaid yn dod ynghyd mewn golygfeydd o agosatrwydd, creadigrwydd, crefft a diwydiant.
Gan bortreadu pryfed brigyn, cacwn y clai, pryfed cop, pryfed caru, mwydod sidan a chlêr y dom mewn vignettes lliwgar wedi'u tynnu â llaw, mae animeiddiadau Silverwood wedi'u llywio gan lên gwerin, mytholeg a threftadaeth, gan fyfyrio ar y ffordd y mae bodau dynol yn gwneud synnwyr o brosesau hypnotig y byd naturiol.
Gan gydweithio â’r cyfansoddwr o Chapter, Samuel Barnes, mae Silverwood wedi bod yn archwilio efelychiadau gweithgynhyrchu o seiniau naturiol, i greu trac sain i gyd-fynd ag ef sy’n cynnwys cofnodion maes o erddi, rhandiroedd, Warley Woods ac Eryri.
Ynglŷn â’r artist
Artist gweledol sy’n gweithio gydag arlunio yw Sarah Taylor Silverwood. Mae’n creu gwaith celf cyhoeddus, animeiddiadau, llyfrau, arddangosfeydd, cerfluniau a thecstilau, gan weithio’n aml ar y cyd â phobl eraill. Mae ei phrosiectau unigol diweddar yn cynnwys Daphne yn The New Art Gallery Walsall (2019) ac Oriel Aspex , Portsmouth (2020), a Crowd Show (2018) yn NN Contemporary. Mae hi wedi bod yn artist preswyl yn Swyddfa Conswl Prydain yn Chicago (2014) ac ym Mhrifysgol Birmingham (2013). Mae hi'n rhan o'r cwmni cydweithredol, Modern Clay.