
SHORTS 3:
REWIND
BYRION 3:
EDRYCH ’NÔL
Think back and remember where you’ve come from, those lost moments which shaped your life, the tales of those around you and historical stories that should never be forgotten.
From earth-shattering events to pivotal childhood moments, intimate personal histories to stories that shape how we see the world – ripples of the past echo into our present. Rewind with these eight animated short films and revisit the past in all its complexity – from warm nostalgia to uncomfortable truths, and everything in between.
​
70mins | Advisory 18+ | Subtitled
​
Content Notes: Death, Graphic Violence, Persecution, Nudity, Alcoholism, Strong Language
​
​
Meddyliwch am o ble rydych chi wedi dod, yr eiliadau coll hynny a siapiodd eich bywyd, hanesion y bobl o’ch cwmpas, a’r straeon hanesyddol na ddylid eu hanghofio.
O ddigwyddiadau ysgytwol i eiliadau hanfodol yn ystod plentyndod, hanesion personol clòs i straeon sy’n siapio’r ffordd rydyn ni’n gweld y byd – mae tonnau’r gorffennol yn atseinio yn ein presennol. Dewch i edrych ’nôl gyda’r wyth ffilm fer animeiddiedig yma, gan weld y gorffennol yn ei holl gymhlethdod – o hiraeth twymgalon i wirioneddau anghyfforddus, a phopeth rhwng y ddau.
​
70mun | Cynghorir 18+ | Isdeitlau
Nodiadau cynnwys: Marwolaeth, Trais Graffig, Erledigaeth, Noethni, Alcoholiaeth, Iaith Gref
​
(S) - Student film
(W) - Welsh Premiere
(UK) - UK Premiere
(World) - World Premiere

MEMORIA COLECTIVA
Dir. Cristina Colmenares, Manuel-Antonio Monteagudo | Colombia, France, Peru | 15:00
Cyf. Cristina Colmenares, Manuel-Antonio Monteagudo | Colombia, Ffrainc, Peru | 15:00
​
This documentary tells how women in Peru joined forces to find their missing relatives during the Armed Conflict that devastated their country (1980-2000).
Mae’r ffilm ddogfen yma’n adrodd hanes menywod Peru a ddaeth at ei gilydd i ddod o hyd i’w perthnasau coll yn ystod y Gwrthdaro Arfog a ddinistriodd eu gwlad (1980-2000).

THE SKY WAS CANDY
Dir. Anh Tú Nguyen | Germany | 03:00 (S)
Cyf. Anh Tú Nguyen | Yr Almaen | 03:00
​
A yellow and blue day in the life of a little child.
Diwrnod melyn a glas ym mywyd plentyn bach.

POLLIWOG
Dir. Julia Skala | Germany | 09:13 (S)(W)
Cyf. Julia Skala | Yr Almaen | 09:13
On a forest home trip with her classmates, ten year old Marlene is struggling with her early pubescent, changing body. She feels all alone with her troubles - until she meets an oddly developed tadpole whom she is weirdly identifying with.
Ar daith i’r goedwig gyda’i chyd-ddisgyblion, mae Marlene ddeg oed yn cael trafferth ymdopi gyda’i chorff sy’n newid ar ddechrau’r glasoed. Mae’n teimlo fel pe bai hi ar ei phen ei hunan – tan iddi gwrdd â phenbwl sydd wedi datblygu’n rhyfedd, a rhywsut mae hi’n uniaethu gydag e.

ON SAINT NICHOLAS' EVE
Dir. Emy Mirel Ivasca| Romania | 11:00 (W)
Cyf. Emy Mirel Ivasca | Rwmania | 11:00
​
After seeing a man lying in the snow, a boy remembers a St. Nicholas night spent with his father years ago. The boy expected his father to give him a toy as a gift, but it didn't go as expected.
Ar ôl gweld dyn yn gorwedd yn yr eira, mae bachgen yn cofio noson Sant Nicolas a dreuliodd gyda’i dad flynyddoedd yn ôl. Roedd y bachgen yn disgwyl i’w dad roi tegan iddo’n rhodd, ond ni aeth pethau fel y disgwyl.

MOUNTAIN MOUNTAIN
Dir. Ben Tan Kai Xiang, Grace Cheu Li Qing | Singapore | 07:09 (S)(UK)
Cyf. Ben Tan Kai Xiang, Grace Cheu Li Qing | Singapôr | 07:09
​
Two young adults, Charlotte and Valerie, ride a cable car up Mount Faber in search of mountains in the small island of Singapore.
Mae dau oedolyn ifanc, Charlotte a Valerie, yn teithio mewn car cebl i fyny Mynydd Faber i chwilio am fynyddoedd ar ynys fach Singapôr.

IMA WA IMA
Dir. Chun Yam Keung | Hong Kong, UK | 04:43 (S)
Cyf. Chun Yam Keung | Hong Kong, Prydain | 04:43
​
When an office worker discovers a caterpillar at work, a forgotten childhood memory resurfaces, one that loops through time, blending the mundane and the magical.
Pan fydd gweithiwr swyddfa’n dod o hyd i lindysyn yn y gwaith, mae atgof anghofiedig o’i blentyndod yn dod i’r wyneb, un sy’n cylchu drwy amser, gan gymylu’r cyffredin a’r hudol.

S THE WOLF
Dir. Sameh Alaa | France | 10:24 (W)
Cyf. Sameh Alaa | Ffrainc | 10:24
​​
A man recounts his capillary peregrinations through his adolescence - from the barber’s trauma to his first love to the loss of his hair and eventually his father. Through this, we see a construction of a masculinity in the making.
Mae dyn yn cofio ei brofiadau anodd drwy ei arddegau – o drawma’r barbwr i’w gariad cyntaf i golli ei wallt ac yna ei dad. Drwy’r cyfan, gwelwn wrywdod yn ffurfio.

AND GRANNY WOULD DANCE
Dir. Maryam Mohajer | UK | 09:48
Cyf. Maryam Mohajer | Prydain | 09:48
​
Six-year-old Marmar listens to the stories her grandmother’s friends tell. She remembers how whenever her Grandad played the accordion, Granny would start to dance
Mae Marmar chwech oed yn gwrando ar straeon mae ffrindiau ei nain yn eu hadrodd. Mae’n cofio pan fyddai ei thaid yn chwarae’r acordion, y byddai Nain yn dechrau dawnsio.
