
SHORTS 5:
HOME
BYRION 5:
CARTREF
Where do you feel most at home? Sitting in your childhood bedroom, standing at the arrivals gate, or in the arms of a loved one? Home isn’t always a place. It can mean warmth and safety – or it can be complicated, fragile, or something we’re still searching for.
These 13 animated short films explore Home in all its complexity – from belonging to longing, displacement and hiraeth; the countries, cities, houses, bodies and minds we inhabit; the places we leave and return to; and the communities that make us feel understood.
​
76mins | Advisory 15+
​
Content Notes: Sex, Nudity, Strong Language, Death, Grief, Racism, Mental Heath.
​
Ble ydych chi’n teimlo fwyaf cartrefol? Yn eistedd yn ystafell wely eich plentyndod, yn sefyll wrth y gât aros mewn maes awyr, neu ym mreichiau rhywun sy’n annwyl i chi? Nid lle yw cartref bob amser. Gall olygu cynhesrwydd a diogelwch – neu gall fod yn gymhleth, yn fregus, neu’n rhywbeth rydyn ni’n dal i chwilio amdano.
Mae’r 13 ffilm fer animeiddiedig yma’n archwilio Cartref yn ei holl gymhlethdod – o berthyn i ddyheu, dadleoli a hiraeth; y gwledydd, y dinasoedd, y tai, y cyrff a’r meddyliau rydyn ni’n byw ynddyn nhw; y llefydd rydyn ni’n eu gadael ac yn dychwelyd iddynt; a’r cymunedau sy’n ein deall ni.
​
76 mun | Cynghorir 15+ | Isdeitlau
​
Nodiadau cynnwys: Rhyw, Noethni, Iaith Gref, Marwolaeth, Marw, Hiliaeth
​
(S) - Student film
(W) - Welsh Premiere
(UK) - UK Premiere
(World) - World Premiere

HOMESICKNESS
Dir. Mabel S Alcock | UK | 01:47 (W)
Cyf. Mabel S Alcock | Prydain | 01:47
​
An oil pastel animated documentary explores international students’ homesickness through personal voices, abstract imagery, and reflective emotional journeys.
Mae’r ffilm ddogfen animeiddiedig yma o bastel olew yn archwilio hiraeth myfyrwyr rhyngwladol drwy leisiau personol, delweddaeth haniaethol, a theithiau emosiynol myfyriol.

PASALUBONG!
Dir. Sophia Uy | USA | 04:35 (S)
Cyf. Sophia Uy | UDA | 04:35
​
In an airport mall, two friends who’ve formed a life changing friendship spend their last day together before parting ways.
Mewn maes awyr, mae dau ffrind sydd wedi ffurfio cyfeillgarwch sy’n newid eu bywydau yn treulio’u diwrnod olaf gyda’i gilydd.

CRIATURA
Dir. Nitya Ramlogan | UK | 08:55 (S)
Cyf. Nitya Ramlogan | Prydain | 08:55 ​
​Thirteen-year-old Lola is relaxing on the beach in her new hometown when she encounters an unknown sea creature.
Mae Lola 13 oed yn ymlacio ar draeth ger ei chartref newydd, pan mae’n dod ar draws creadur môr anhysbys.

STATUE IN THE GARDEN
Dir. Qianhui Yu | UK | 07:38
Cyf. Qianhui Yu | Prydain | 07:38
​
Newcomer Didi finds a curious little statue in the garden of her new house, which leads her to discover the incredible history of the place she now calls home.
Mae Didi’n dod o hyd i gerflun bach rhyfedd yng ngardd ei thÅ· newydd, sy’n arwain at ddarganfod hanes anhygoel y lle sydd bellach yn gartref iddi.

THE REFUSERS
Dir. Wiep Teeuwisse | Netherlands | 02:31
Cyf. Wiep Teeuwisse | Iseldiroedd | 02:31
​
On a street corner in the city, a heap of dumped garbage surrounds two garbage containers. An old mattress begins to speak sadly: “They say I’m dirty…” Other pieces of garbage join in, sharing the reasons why they have been discarded.
Ar gornel stryd yn y ddinas, mae pentwr o sbwriel yn amgylchynu dau gynhwysydd sbwriel. Mae hen fatres yn dechrau siarad yn ddigalon. “Maen nhw’n dweud fy mod i’n frwnt…” Mae darnau eraill o sbwriel yn ymuno, gan rannu’r rhesymau maen nhw wedi cael eu taflu o’r neilltu.

OF ALL THE THINGS
Dir. Steff Lee | UK | 07:39
Cyf. Steff Lee | Prydain | 07:39
​
Ava returns from university to a hoarded childhood home, confronting memories, her mother’s fear of letting go, and seeking understanding.
Mae Ava yn dychwelyd o’r brifysgol i gartref ei phlentyndod sy’n orlawn o stwff, gan wynebu atgofion ac ofn ei mam o adael fynd, a cheisio dealltwriaeth.

CHECK
Dir. Anita Gill | UK | 01:25
Cyf. Anita Gill | Prydain | 01:25
​
A short film about OCD checking and the anxious inner struggle that can often be invisible to others.
Ffilm fer am wiriadau OCD a’r frwydr fewnol bryderus sy’n aml yn anweledig i eraill.

MENTAL ROOTS
Dir. Nathan Addai | UK | 03:32
Cyf. Nathan Addai | Prydain | 03:32
​​
Mental Roots places you in the shoes of a first-generation black Brit who embodies the fears and stigmas of mental health issues in the black community.
Mae Mental Roots yn eich gosod chi yn esgidiau Prydeiniwr du cenhedlaeth gyntaf sy’n ymgorffori ofnau a stigma problemau iechyd meddwl yn y gymuned ddu.

STEEPING
Dir. Eilidh Nicoll | UK | 03:15 (W)
Cyf. Eilidh Nicoll | Prydain | 03:15
​
Strangers ponder our attitudes towards death and dying - reflecting on how a conversation over tea and coffee at a ‘Death Cafe’ might make broaching the subject a little less terrifying.
Mae dieithriaid yn ystyried ein hagweddau tuag at farw a marwolaeth – gan fyfyrio ar sut gallai sgwrs dros baned mewn ‘Caffi Marwolaeth’ wneud y pwnc yn llai brawychus.

STONE OF DESTINY
Dir. Julie ÄŒerná | Czech Republic | 10:26 (S)(W)
Cyf. Julie ÄŒerná | Gweriniaeth Tsiec | 10:26
​
​Stone of Destiny explores the beauty of finding your path, even when it’s fraught with uncertainty.
Mae Stone of Destiny yn archwilio’r harddwch wrth ddod o hyd i’ch llwybr mewn bywyd, hyd yn oed pan mae’n llawn ansicrwydd.

DOG CREASE PATTERN
Dir. James Lee Pollitt | UK | 04:24 (UK)
Cyf. James Lee Pollitt | Prydain | 04:24
​
An origami dog interprets real people's unique and universal experiences of dog ownership and loss.
Mae ci origami yn dehongli profiadau unigryw a chyffredin pobl go iawn o berchen cŵn a’u colli.

IT SHOULDN'T RAIN TOMORROW
Dir. Maria Trigo Teixeira | Portugal | 11:30
Cyf. Maria Trigo Teixeira | Portiwgal | 11:30
​
Feeling that her mother may no longer be able to live on her own, a woman moves back to her childhood home.
As she tries to adapt to the new situation, her mother continues to drift away.
Gan deimlo nad yw ei mam yn gallu byw ar ei phen ei hunan bellach, mae menyw’n symud ’nôl i gartref ei phlentyndod. Wrth geisio addasu i’r sefyllfa newydd, mae ei mam yn parhau i lithro i ffwrdd.

TWO BLACK BOYS IN PARADISE
Dir. Baz Sells | UK | 08:54
Cyf. Baz Sells | Prydain | 08:54
​
A movingly tender animation, based on Dean Atta’s eponymous poem, sees two boys (Edan, 19 and Dula, 18) on a journey of self-acceptance and love – for each other and themselves.
Mewn animeiddiad teimladwy a thyner, yn seiliedig ar y gerdd dan yr un enw gan Dean Atta, mae dau fachgen (Edan, 19 a Dula, 18) ar daith o hunan-dderbyniad a chariad – at ei gilydd a’u hunain.
