
JURY
Meet the CAF jury, who will choose the winners of Best Short Film, Best Student Short Film and Best Micro Short Film!

SARAH SCHMIDT​
Sarah Schmidt is an animator and curator based in Chicago, Illinois.
Since 2016, she has hosted indie animation showcase/fanzine "Malt Adult", highlighting over 250 artists pushing the medium.
She works with clients like Adult Swim and Bath & Body Works under the studio name "Sunshine Mall" with partner Ian Ballantyne. She is currently finishing her MFA at DePaul University.
​
Animeiddiwr a churadur sy’n byw yn Chicago, Illinois, yw Sarah Schmidt.
Ers 2016, mae hi wedi bod yn cynnal arddangosiad/ffansîn annibynnol "Malt Adult", gan amlygu dros 250 o artistiaid sy’n gwthio’r cyfrwng.
Mae’n gweithio gyda chleientiaid fel Adult Swim a Bath & Body Works o dan yr enw stiwdio "Sunshine Mall" gyda’i phartner Ian Ballantyne. Mae hi wrthi’n gorffen ei MFA ym Mhrifysgol DePaul ar hyn o bryd.

PIP WILLIAMSON​
Pip Williamson is a is a self-taught freelance 2D animator best known for her animation work on the BAFTA-winning video game Thank Goodness You're Here.
The game, which coins for itself the unique label 'slapformer' is a madcap action comedy set in a fictional Northern town.
Pip's animation takes cues from the humour in the character designs and storyline dreamed up by her friends and collaborators - James Carbutt and Will Todd, as well as the sincere silliness the duo brought to the working environment during production.
Pip is an enthusiastic advocate for play in the creative process and cites the success of Thank Goodness You're Here as her case for a fun-first approach to creativity.
​
Animeiddiwr 2D llawrydd hunanddysgedig yw Pip Williamson, sy’n fwyaf adnabyddus am ei gwaith animeiddio ar y gêm fideo a enillodd wobr BAFTA, Thank Goodness You’re Here.
Mae’r gêm, sydd wedi rhoi’r label unigryw ‘slapformer’ i’w hunan, yn gomedi gyffro wallgo wedi’i gosod mewn tre ffuglennol yng ngogledd Lloegr. Mae animeiddiad Pip yn cael ei dywys gan yr hiwmor yn nyluniadau’r cymeriadau a’r stori a gafodd ei llunio gan ei ffrindiau a’i chydweithwyr – James Carbutt a Will Todd – yn ogystal â’r ffolineb diffuant a gynigiodd y ddau i’r amgylchedd gweithio ar y cam cynhyrchu.
Mae Pip yn eiriolwr brwd dros chwarae yn ystod y broses greadigol, ac mae’n diolch i’w hymagwedd hwyl-yn-gyntaf at greadigrwydd am lwyddiant Thank Goodness You’re Here.

NIA EDWARDS-BEHI​
​
Nia Edwards-Behi has been immersed in Welsh film culture for over 15 years.
Nia has a Film Studies doctorate from Aberystwyth University, and worked with Aberystwyth Arts Centre and S4C before joining the National Library of Wales Screen and Sound Archive.
Nia is co-director of Abertoir Horror Festival and programmer for the Wales One World Film Festival.
​
​Mae Nia Edwards-Behi wedi bod yn rhan annatod o ddiwylliant ffilm Cymru ers dros 15 mlynedd.
Mae gan Nia ddoethuriaeth mewn Astudiaethau Ffilm o Brifysgol Aberystwyth, a bu’n gweithio gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac S4C cyn ymuno ag Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae Nia yn gyd-gyfarwyddwr Gŵyl Arswyd Abertoir ac yn rhaglennwr ar gyfer Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un.
