IN-PERSON CAF26 PASS FAQ
​​
How do CAF26 Passes work?
You can purchase your early bird festival pass via Chapter’s website from Monday 2 February, 10am. Your pass will be assigned to the email address with which you purchase your pass. Only one pass can be added per account.
-
Early Bird Festival Passes are £72 (full price) / £48 (concessions).
-
Festival Passes are £90 (full price) / £60 (concessions).
Your festival pass will give you access to ticketed, in-person CAF26 events at Chapter from 23-26 April (excluding industry day events). However, you must still book a ticket for each event you wish to attend to guarantee entry, as capacity is limited.
-
Industry Day Passes are £25 (full price) / £15 (concessions).
Your Industry Pass will give you access to ticketed, in-person CAF26 industry events taking place at Chapter on Thursday 23 April. Booking is still required for each event to secure your place.
Use promo code DOTTY26 for concession pricing.
​
What if I change my mind after I collect my tickets?​
If you’re a pass holder and can't make it to an event you've collected a ticket for, please return it to Chapter as soon as possible. You can do this by emailing enquiry@chapter.org, calling them on +44 (0)29 2031 1050 or visit Chapter’s Information Desk to let them know. This means your ticket for that event can be released so another festival-goer can enjoy it.
​
If you decide you’d like to attend an event you didn’t book in advance, you can visit Chapter’s Information Desk and collect a free ticket using your Festival Pass, subject to availability.
​
What if an event is sold out?​
All ticket holders must be seated at least 5 minutes before the event or screening begins. If an event is sold out, any unclaimed seats may be released shortly before the start time. Pass holders may be able to access these seats on a first-come, first-served basis, but this cannot be guaranteed.​
​
Can I buy tickets to individual events if I don't want a full pass?
Yes! Tickets for individual events will go on sale when our full programme and festival calendar is released on Wednesday 4 March.​ March.​
​
How much will individual tickets cost?
We keep our tickets and passes as low-cost as possible to try and be as accessible as we can. Tickets for individual events will cost between £7 and £9.
If you’re aged 16-30, you can join Chapter Clwb for 2 free cinema tickets when you sign up (to be used in the first month) and cinema, theatre and event tickets for just £5.
​
Is there a booking fee?
For bookings to in-person events at Chapter, a £1 booking fee applies per transaction. You can avoid paying this multiple times by booking all your tickets in one session.
​
Group Bookings​
If you're coming to Cardiff Animation Festival as part of a university group or other big group of 10 or more people, speak to us about group booking discounts - just drop us an email to festival@cardiffanimation.com, let us know a bit about your group and how many people you expect will be coming.
​
CWESTIYNAU CYFFREDIN PÀS CAF26 AR Y SAFLE
​​
Sut mae Pasys CAF26 yn gweithio?
Gallwch brynu eich pàs drwy wefan Chapter o 10am, dydd Llun 2 Chwefror ymlaen. Bydd eich pàs yn cael ei ddynodi i’r cyfeiriad e-bost rydych chi’n ei ddefnyddio i brynu’r pàs. Dim ond un pàs y gellir ei ychwanegu i bob cyfrif. Bydd eich pàs yn rhoi mynediad i holl ddigwyddiadau wyneb yn wyneb CAF26 y mae angen tocynnau ar eu cyfer yn Chapter.
-
Mae pasys bargen gynnar yn £72 (pris llawn) / £48 (consesiynau).
-
Mae pasys gŵyl yn £90 (pris llawn) / £60 (consesiynau).
-
Mae pasys Diwrnod y Diwydiant yn £25 (pris llawn) / £15 (consesiynau).
Defnyddiwch y cod hyrwyddo DOTTY26 i gael prisiau consesiwn.
Bydd eich pàs yn cael ei actifadu ar eich cyfrif o ddydd Iau 12 Chwefror ymlaen.
Pan fydd y digwyddiadau’n mynd yn fyw ar ddydd Mercher 4 Mawrth, mewngofnodwch i’r cyfrif y mae’r pàs wedi’i ddynodi iddo ac archebwch eich tocyn ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau hoffech chi fynd iddyn nhw. Bydd y tocynnau’n dangos eu bod am ddim ar ôl i chi eu hychwanegu i’ch basged. Gallwch archebu tocyn unrhyw bryd ar ôl i’r digwyddiadau fynd yn fyw, ond rydyn ni’n argymell archebu’n gynnar, gan y gallai digwyddiadau lenwi.
​
Cofiwch, os byddwch chi’n prynu’ch pàs ar ôl 12 Chwefror, gall gymryd hyd at 48 awr i’r pàs gael ei actifadu ar eich cyfrif.
Beth os bydda i’n newid fy meddwl ar ôl casglu fy nhocynnau?
​
Os oes gennych bàs ac na allwch chi ddod i ddigwyddiad ar ôl i chi gasglu tocyn ar ei gyfer, rhowch eich tocyn yn ôl i Chapter cyn gynted â phosib. Gallwch wneud hyn drwy anfon e-bost at enquiry@chapter.org, eu ffonio nhw drwy +44 (0)29 2031 1050 neu fynd i’w Desg Wybodaeth ar y safle i roi gwybod iddyn nhw. Mae hyn yn golygu y bydd modd ail-ryddhau’r tocyn er mwyn i rywun gael ei ddefnyddio.
Os byddwch chi’n penderfynu eich bod eisiau mynd i ddigwyddiad ond nad ydych chi wedi archebu tocyn ymlaen llaw, gallwch fynd i Swyddfa Docynnau Chapter a chasglu tocyn am ddim ar gyfer y digwyddiad hwnnw gyda’ch Pàs Gŵyl, os bydd tocynnau ar ôl.
​
Beth os bydd digwyddiad wedi gwerthu pob tocyn?
​
Mae’n rhaid i ddeiliaid tocynnau fod yn eu seddi 5 munud cyn i’r digwyddiad/dangosiad ddechrau. Os bydd digwyddiad wedi gwerthu pob tocyn, byddwn ni’n caniatáu i ddeiliaid pasys gymryd unrhyw seddi sy’n weddill ar sail cyntaf i’r felin.
​
Alla i brynu tocynnau i ddigwyddiadau unigol os nad ydw i eisiau pàs gŵyl llawn?
Gallwch – bydd tocynnau ar gyfer digwyddiadau unigol yn mynd ar werth pan fydd ein rhaglen lawn a chalendr yr ŵyl yn cael eu rhyddhau ddydd Mercher 4 Mawrth.
​
Beth fydd pris tocynnau unigol?
​
Rydyn ni’n cadw pris ein holl docynnau a phasys mor isel â phosib er mwyn bod mor hygyrch â phosib. Bydd tocynnau ar gyfer digwyddiadau unigol yn costio rhwng £7 a £9.
​
Os ydych chi rhwng 16 a 30 oed, gallwch ymuno â Chlwb Chapter i gael 2 docyn sinema am ddim pan fyddwch chi’n cofrestru (i’w defnyddio yn y mis cyntaf) a thocynnau sinema, theatr a digwyddiadau am £5 yn unig*.
Oes ffi archebu?
​
Ar gyfer archebion ar-lein i ddigwyddiadau ar safle Chapter, bydd ffi archebu o £1 gyda phob trafodiad, ond gallwch osgoi talu’r ffi sawl tro drwy archebu eich holl docynnau mewn un, a fydd yn golygu na fyddwch chi ond yn talu’r £1 ychwanegol unwaith.
​
Archebion Grŵp
​
Os byddwch chi’n dod i Å´yl Animeiddio Caerdydd fel rhan o grŵp prifysgol neu grŵp mawr o 10 person neu fwy, cysylltwch â ni i holi am ostyngiadau grŵp. Anfonwch e-bost at festival@cardiffanimation.com, gan sôn ychydig am eich grŵp a faint o bobl rydych chi’n disgwyl fydd yn dod.
​​
​

ONLINE PASS FAQ
​How do Online Passes work?
An Online Pass gives you access to all online events at this year’s Cardiff Animation Weekender.
There are a limited number of Early Bird passes for £15.
Once they have sold out regular passes will go on sale for £20.
Some events will be free or individually priced at £3 - pay what you can.
Where will the Festival be hosted online?
The Cardiff Animation Weekender online will be hosted on a site called Eventive.
You can check out all the events soon on watch.eventive.org/cardiffanimationweekender
​
What device will I need to watch the festival online?
You can watch all events from your smart devices/laptop/computer, you can also cast to your television.
All the information about device types and to test your devices' compatibility can be found here watch.eventive.org/help
​
Where can I find the festival schedule?
The full schedule of festival events will be available on our website soon and also on our Eventive Virtual Festival page
​
How do I purchase individual tickets for each event?
To purchase a ticket for an individual event/programme go to the Eventive virtual festival page, there you will find all the online events and screenings. Select the screening or event you would like to book a ticket for, you will then need to enter your email address and card details to create an account on Eventive. You will then have 7 days to activate the screening, once activated you will have 5 days to watch the screening/event. Wherever possible we are offering tickets on a pay-what-you-can basis. Tickets for each event will go on sale on the 14th of April.
​
How do I book tickets with my pass?
Once you have bought a ticket head to our Virtual Festival Page there you will see all the screenings and events. Log in to your account and select each event you would like to attend. You can pre-book events with your festival pass. When you have ordered the tickets that you want you can watch these at any time they are available. Once activated (you have pressed Watch Now) you will have 5 days to watch the screening/event. ​
​
I don't live in the UK – can I still watch the festival events online?
Yes you can! A selection of our Q+As and shorts programmes are available wherever you are in the world! Some films don't allow to be viewed online so some will not be available in the online programme.
​
Are the screenings/events accessible?
All our screenings will have subtitles available either embedded in the film itself or available as closed captions. To enable the subtitles for screening on Eventive and YouTube please press 'CC' in the corner of the video. All our live events (Q+As, masterclasses and panels) will have live captions available.
​
Who do I contact if I am having issues with my Eventive account?
Eventive have a really helpful team! Launch their live chat or check out their help page watch.eventive.org/help
​
​
CWESTIYNAU CYFFREDIN PÀS AR-LEIN
​Sut mae Pasys Ar-lein yn gweithio?
Mae Pàs Ar-lein yn rhoi mynediad i chi at yr holl ddigwyddiadau ar-lein ym Mhenwythnos Animeiddio Caerdydd eleni.
Mae nifer cyfyngedig o basys Bargen Gynnar am £15.
Unwaith bydd y rhain wedi gwerthu, bydd pasys rheolaidd yn mynd ar werth am £20.
Bydd rhai digwyddiadau am ddim neu â phris unigol o £3 - talwch beth allwch chi.
Ble bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal ar-lein?​
Bydd Penwythnos Animeiddio Caerdydd ar-lein yn cael ei chynnal ar wefan o’r enw Eventive.
Gallwch weld yr holl ddigwyddiadau yn fuan ar watch.eventive.org/cardiffanimationweekender
​
Pa ddyfais fydd ei hangen arna i i wylio’r ŵyl ar-lein?
Gallwch wylio’r holl ddigwyddiadau o’ch dyfais glyfar/gliniadur/cyfrifiadur, gallwch hefyd ei chastio i’ch teledu.
Mae’r holl wybodaeth am y math o ddyfais ac i brofi cydnawsedd eich dyfeisiau ar gael yma watch.eventive.org/help
​
Ble alla i weld amserlen yr ŵyl?
Bydd amserlen lawn o ddigwyddiadau’r ŵyl ar gael ar ein gwefan yn fuan, a hefyd ar y dudalen Gŵyl Rithwir ar Eventive.
​
Sut galla i brynu tocynnau unigol i bob digwyddiad?
Er mwyn prynu tocyn i ddigwyddiad/rhaglen unigol, ewch i dudalen yr ŵyl rithwir ar Eventive, a bydd yr holl ddangosiadau a digwyddiadau ar-lein yno. Dewiswch y dangosiad neu’r digwyddiad hoffech archebu tocyn ar ei gyfer, ac yna bydd angen i chi roi eich cyfeiriad e-bost a manylion eich cerdyn i greu cyfrif ar Eventive. Yna bydd gennych 7 diwrnod i actifadu’r dangosiad. Unwaith y bydd wedi’i actifadu, bydd gennych 5 diwrnod i wylio’r dangosiad/digwyddiad. Lle bo modd, rydyn ni’n cynnig tocynnau ar sail talu beth allwch chi. Bydd tocynnau ar gyfer pob digwyddiad yn mynd ar werth ar 14 Ebrill.
​
Sut mae archebu tocynnau gyda fy mhàs?
Ar ôl i chi brynu tocyn, ewch i’n Tudalen Gŵyl Rithwir, a bydd yr holl ddangosiadau a digwyddiadau yno. Mewngofnodwch i’ch cyfrif a dewiswch bob digwyddiad hoffech fynd iddo. Gallwch rag-archebu digwyddiadau gyda phàs yr ŵyl. Pan fyddwch wedi archebu’r tocynnau, gallwch wylio’r rhain ar unrhyw adeg maen nhw ar gael. Ar ôl iddynt gael eu hactifadu (hynny yw pan fyddwch chi’n pwyso Watch Now), bydd gennych 5 diwrnod i wylio’r dangosiad/digwyddiad.
​
Dw i ddim yn byw ym Mhrydain – alla i wylio digwyddiadau’r ŵyl ar-lein?
Gallwch! Mae detholiad o’n rhaglenni byrion a sesiynau holi ac ateb ar gael lle bynnag yn y byd ydych chi! Nid yw rhai ffilmiau’n caniatáu i chi eu gwylio ar-lein, felly ni fydd rhai ar gael yn y rhaglen ar-lein.
​
Ydy’r dangosiadau/digwyddiadau yma’n hygyrch?
Bydd gan ein holl ddangosiadau isdeitlau, un ai wedi’u hymgorffori i’r ffilm ei hunan neu fel capsiynau caeedig. Er mwyn galluogi isdeitlau wrth wylio ar Eventive a YouTube, pwyswch ‘CC’ yng nghornel y fideo. Bydd capsiynau byw ar gael ar gyfer ein holl ddigwyddiadau byw (sesiynau holi ac ateb, dosbarthiadau meistr a phaneli).
​
Gyda phwy ddylwn i gysylltu os bydda i’n profi problemau gyda fy nghyfrif Eventive?
Mae gan Eventive dîm sy’n barod i helpu! Lansiwch eu sgwrs fyw neu edrychwch ar eu tudalen gymorth drwy watch.eventive.org/help



