top of page
KlausAndOlov.png
MOONHOOD (KLAUS LYNGELED & OLOV REDMALM)
​

MoonHood is a newly founded gaming company, but its founders are far from beginners in the industry. Klaus Lyngeled, with over 30 years of game development experience, and Olov Redmalm both have extensive backgrounds in the gaming world, having worked on large productions. Klaus previously led Zoink Games, creating more than 15 different projects, and later co-founded Thunderful Group, helping the company grow from 50 employees in Sweden to 160 locally and over 400 across the European market.

 

Olov Redmalm has also made a significant impact in the industry, notably as the director of the award-winning game Ghost Giant for PSVR and Meta. Before MoonHood, Olov and Klaus’s most recent joint project was Lost in Random, funded and published by EA Originals. The title was a critically acclaimed success that won several awards and was co-written with Ryan North, an Eisner Award–winning writer.

 

MoonHood’s first released title, The Midnight Walk, established the studio’s creative direction early on. The game received strong critical recognition for its distinctive atmosphere, tactile visual style, and emotionally driven design, and went on to be celebrated at several international events.

​

With MoonHood, the team’s goal is to create unique and memorable worlds, utilizing physical models made of clay and cardboard that are 3D scanned and then assembled in Unreal Engine. Their current projects continue this approach, focusing on dark yet cozy adventure experiences for consoles and PC.

​

Cwmni gemau newydd ei sefydlu yw MoonHood, ond mae ei sylfaenwyr yn bell o fod yn ddechreuwyr yn y diwydiant. Mae gan Klaus Lyngeled, sydd â dros 30 mlynedd o brofiad yn datblygu gemau, ac Olov Redmalm, ill dau gefndir helaeth yn y byd gemau ar ôl gweithio ar gynyrchiadau mawr. Bu Klaus yn arwain Zoink Games yn flaenorol, gan greu dros bymtheg o brosiectau gwahanol, cyn cyd-sefydlu Thunderful Group, gan helpu’r cwmni i dyfu o 50 o weithwyr yn Sweden i 160 o weithwyr yn lleol a dros 400 ar draws marchnad Ewrop.

 

Mae Olov Redmalm hefyd wedi cael effaith sylweddol ar y diwydiant, yn fwyaf nodedig fel cyfarwyddwr y gêm glodwiw Ghost Giant ar gyfer PSVR a Meta. Cyn MoonHood, cyd-brosiect diweddaraf Olov a Klaus oedd Lost in Random, a gafodd ei ariannu a’i gyhoeddi gan EA Originals. Roedd y gêm yn llwyddiant o ran gwobrau ac ymysg y beirniaid, a chafodd ei chyd-ysgrifennu gyda Ryan North, awdur sydd wedi ennill Gwobr Eisner.

 

Sefydlodd gwaith cyntaf MoonHood, The Midnight Walk, gyfeiriad creadigol y stiwdio yn gynnar. Cafodd y gêm gydnabyddiaeth gref ymysg beirniaid am ei hawyrgylch unigryw, ei harddull weledol gyffyrddol, a’i dyluniad emosiynol, ac aeth ymlaen i gael ei dathlu mewn sawl digwyddiad rhyngwladol. Gyda MoonHood, nod y tîm yw creu bydoedd unigryw a chofiadwy, gan ddefnyddio modelau wedi’u creu o glai a chardfwrdd sydd wedi’u sganio yn 3D ac yna eu cydosod yn Unreal Engine. Mae eu prosiectau presennol yn parhau â’r dull hwn, gan ganolbwyntio ar brofiadau antur tywyll ond clyd ar gyfer consolau a PC.

​

Sign up to our mailing list:

CARDIFF ANIMATION FESTIVAL:
  • EMAIL
  • Instagram
  • Facebook
  • Discord
  • TikTok
CARDIFF ANIMATION NIGHTS:
  • EMAIL
  • Facebook
  • Instagram
SUPPORT US VIA PATREON:
Patreon.png

© 2O25 by CARDIFF ANIMATION FESTIVAL

BAFTA Festival Stamp - Positive.png
BAFTA23_Qualifyingfeststamp_neg_white.png
bottom of page