
SAND ON SCREEN WITH GERALD CONN
Saturday 25 Aprill 2026
Dydd Sadwrn 25 Ebrill 2026
11:30am • Chapter Cinema 1
Advisory: 15+ | 60mins
Cynghorir: 15+ | 60mun
£7/9 or included in Festival Pass
£7/9 neu wedi’i gynnwys gyda Phas yr Ŵyl
This event will have Live Captions by Sheryll Holley + BSL Interpretation by Lydia Boydell
Bydd gan y digwyddiad yma Gapsiynau Byw gan Sheryll Holley + dehongliad BSL gan Lydia Boydell.
Gerald Conn is an award-winning filmmaker who has been animating with sand for over 30 years, grain by grain he has created beautiful animation using this intricate stop-motion technique.
His sand-on-glass films have been nominated for five BAFTA Cymru awards and won a BAFTA Cymru for Best Animation. In 2010, he established Gritty Realism Productions and is currently in pre-production on a feature film based on Joseph Conrad’s Heart of Darkness, the world’s first sand animated feature.
Watch Gerald’s short films in the cinema, hear stories from production, see Gerald animating live on stage and learn all about his brand new app Sandimation.
Mae Gerald Conn yn wneuthurwr ffilm llwyddiannus, sydd wedi bod yn animeiddio â thywod ers dros 30 mlynedd. Gronyn wrth ronyn, mae e wedi creu gwaith animeiddio hyfryd gan ddefnyddio’r dechneg stop-symud gain yma.
Mae ei ffilmiau tywod-ar-wydr wedi cael eu henwebu am bum Gwobr BAFTA Cymru, ac wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am yr Animeiddiad Gorau. Yn 2010, sefydlodd Gritty Realism Productions, ac ar hyn o bryd mae ar y cam cyn-cynhyrchu ar gyfer ffilm nodwedd yn seiliedig ar Heart of Darkness gan Joseph Conrad, a dyma fydd ffilm nodwedd animeiddio tywod gynta’r byd.
Dewch i wylio ffilmiau byrion Gerald yn y sinema, gwrando ar ei straeon cynhyrchu, gweld Gerald yn animeiddio’n fyw ar y llwyfan, a dysgu am ei ap newydd sbon, Sandimation.


