


CAF SHORTS:
FESTIVAL FAVOURITES
Byrion CAF: FFEFRYNNAU'R ŴYL
Enjoy a hand picked selection of animated short films screened at Cardiff Animation events over the last decade!
These films were chosen by the festival team for the impact they made on us, their creativity and unique storytelling.
Journey from your home to explore the wilderness, look for the meaning of life atop mountains & find hidden depths in eerie jungles. We will take you to all of these places once again and hope to leave you with new favourites to share beyond the cinema!
Mwynhewch ddetholiad arbennig o’n hoff ffilmiau byrion animeiddiedig sydd wedi’u dangos yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd dros y degawd diwethaf!
Dewiswyd y ffilmiau yma gan dîm yr ŵyl oherwydd yr effaith gawson nhw arnon ni, eu creadigrwydd, a’u ffordd unigryw o adrodd stori, a arhosodd gyda ni ymhell ar ôl i’r dangosiad ddod i ben.
Teithiwch gyda ni i archwilio’r anialwch, i chwilio am ystyr bywyd ar ben mynyddoedd, a chanfod dyfnderoedd cudd mewn jynglau iasol. Byddwn ni’n mynd â chi i’r holl lefydd yma unwaith eto, gan obeithio rhannu ffefrynnau newydd gyda chi i’w rhannu tu hwnt i’r sinema!
Content Notes: Animated nudity, language.
Rhybudd Cynnwys:Noethni animeiddiedig, iaith.
Sunday 18 May 2025
Nos Sadwrn 17 Mai 2025
7:45pm • Chapter C1
English Subtitles | Isdeitlau Saesneg
£7/9 or included in Festival Pass
£7/9 neu wedi’i gynnwys gyda Phas yr Ŵyl

HEART CHAKRA
Dir./Cyf. Angela Stempel | USA | 07:23 | 2017
Mae's life is routinely disrupted by the advice from her online crystal healer and her devotion to horoscopes. Armed with healing crystals and numerology, Mae is ready to follow the predictions on an unexpected path to find her soulmate.
Mae cyngor iachäwr crisial ar-lein Mae, a’i hymroddiad i horosgopau, yn tarfu ar ei bywyd yn ddi-baid. Gyda chrisialau iachusol a rhifyddiaeth, mae Mae’n barod i ddilyn y rhagfynegiadau ar lwybr annisgwyl i ddod o hyd i’w henaid hoff gytûn.

WEDNESDAY WITH GODDARD
Dir./Cyf. Nicolas Ménard | UK | 04:30 | 2016
A personal quest for spiritual enlightenment leads to romance and despair.
Mae ymgais bersonol i ganfod goleuedigaeth ysbrydol yn arwain at ramant ac anobaith.

NETTLE HEAD
Dir./Cyf. Paul Cabon | France | 14:14 | 2019
Bastien and his two friends enter the forbidden area.
In the ruins and the toxic haze, something is waiting…
Mae Bastien a’i ddau ffrind yn mentro i’r ardal waharddedig. Yn yr adfeilion a’r niwl gwenwynig, mae rhywbeth yn aros...

DEEPER STILL
Dir./Cyf. Max Callaby | UK | 05:53 | 2023
Sheltering from a storm an explorer comes across an ancient cave. Inside is a miner tirelessly mining. Who is this miner? Why won’t they take a break? As the two develop a bond the true nature of the miner's quest is revealed.
Wrth gysgodi rhag storm, mae anturiaethwyr yn dod ar draws ogof hynafol. Tu mewn iddi mae ’na fwynwr yn cloddio’n ddiflino. Pwy yw’r cloddiwr yma? A pham nad ydyn nhw’n cymryd seibiant? Wrth i’r ddau ddatblygu cysylltiad, mae gwir natur ymdrech y cloddiwr yn dod i’r amlwg.

IN PASSING
Dir./Cyf. Esther Cheung | USA | 05:18 | 2019
A portrait of seventies Hong Kong, as my parents remember it. 風不太冷 In Passing transports viewers and immerses them in the fleeting moments of everyday Hong Kong.
Portread o Hong Kong yn y saithdegau, fel mae fy rhieni yn ei gofio. Mae 風不太冷 In Passing yn cludo’r gwylwyr ac yn eu trochi yn eiliadau diflanedig bywyd beunyddiol Hong Kong.

MARILYN MYLLER
Dir./Cyf. Mikey Please | UK | 06:06 | 2013
Marilyn maketh. Marilyn taketh awayeth. Marilyn is trying really hard to create something good. For once, her expectation and reality are going to align. It will be epic. It will be tear jerkingly profound. It will be perfect. Nothing can go wrong.
Mae Marilyn yn creu. Mae Marilyn yn cymryd i ffwrdd. Mae Marilyn yn gwneud ei gorau i greu rhywbeth da. Am unwaith, mae ei disgwyliad a realiti yn mynd i gytuno. Bydd hyn yn epig. Bydd hyn yn ddwys ac yn ddagreuol. Bydd yn berffaith. All dim byd fynd o chwith.

OH WILLY...
Dir./Cyf. Emma De Swaef & Marc James Roels | UK | 16:24 | 2012
Forced to return to his naturist roots, Willy bungles his way into noble savagery.
Gan gael ei orfodi i ddychwelyd i’w wreiddiau naturiaethol, mae Willy’n straffaglu at anwaredd bonheddig.

MR MADILA
Dir./Cyf. Rory Waudby-Tolley | UK | 08:37 | 2016
"Everything is mostly nothing. Look closely and you can see all the little bits and pieces, and all the gaps in-between."
“Dim byd yw popeth gan mwyaf. Edrychwch yn ofalus ac fe welwch yr holl ddarnau bach, a’r bylchau rhyngddynt.”