


FESTIVUS
Saturday 17 May 2025
Nos Sadwrn 17 Mai 2025
7:00pm • Corporation Yard
​
Please let us know any access provision that would make it easier for you to attend the event, such as BSL interpretation.​
​
Rhowch wybod os byddai unrhyw ddarpariaeth hygyrchedd yn ei gwneud hi’n haws i chi ddod i’r digwyddiad, fel dehongliad Iaith Arwyddion Prydain.​
​
Free / Am Ddim
FESTIVUS is traveling to the Cardiff Animation Weekender!
Enjoy an evening of socialising, networking and all-round fun with the beloved London-based event!
About FESTIVUS:
Helping studios find crew and crew find careers.
FSTVS is the destination for all your animation recruitment needs and the online presence of the FESTIVUS event and community.
From humble beginnings in the back streets of London in the early 2000s, the FESTIVUS community has grown over 20 years, via regular in-person events and an active social media presence, to being a hub of animation talent, with over 11,000 global members.
FSTVS is the next stage in expanding this community, answering increased demand for recruitment support across the animation sector, to reach more industry professionals, animation students, and recent graduates, to offer more work opportunities as well as industry specific news, updates, programs, and offers.
Simplify your animation recruitment with FSTVS.
Mae FESTIVUS yn teithio i Benwythnos Animeiddio Caerdydd!
Mwynhewch noson o gymdeithasu, rhwydweithio, a llond y lle o hwyl gyda’r digwyddiad poblogaidd o Lundain!
YnglÅ·n â FESTIVUS:
Helpu stiwdios i ganfod criw, a chriw i ganfod gyrfa.
FSTVS yw’r gyrchfan ar gyfer eich holl anghenion recriwtio animeiddio, a phresenoldeb ar-lein digwyddiad a chymuned FESTIVUS.
O ddechreuad di-nod yn strydoedd cefn Llundain ar ddechrau’r 2000au, mae cymuned FESTIVUS wedi tyfu dros gyfnod o ugain mlynedd, drwy ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a phresenoldeb bywiog ar y cyfryngau cymdeithasol, i fod yn ganolfan o ddoniau animeiddio, gyda dros 11,000 o aelodau byd-eang.
FSTVS yw cam nesaf datblygu’r gymuned yma, sy’n ateb galw cynyddol am gymorth recriwtio ar draws y sector animeiddio, i gyrraedd mwy o weithwyr y diwydiant, myfyrwyr animeiddio, a graddedigion newydd, i gynnig mwy o gyfleoedd gwaith yn ogystal â newyddion i’r diwydiant, diweddariadau, rhaglenni a chynigion.
Symleiddiwch eich gwaith recriwtio yn y byd animeiddio gyda FSTVS.