top of page

Diwrnod Diwydiant Gŵyl Animeiddio Caerdydd

  • Mar 23
  • 3 min read

Mae Diwrnod Diwydiant Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn dychwelyd ddydd Iau 23 Ebrill i Chapter, gan ddod â chymuned animeiddio Prydain at ei gilydd unwaith eto mewn digwyddiad hanfodol yng nghalendr y diwydiant. Dan arweiniad Hannah Lau-Walker, cyfarwyddwr, cyflwynydd a chyd-arweinydd WIA UK, mae'r diwrnod yn dod ag arweinwyr stiwdios, gweithwyr llawrydd, arianwyr, comisiynwyr, myfyrwyr, graddedigion a doniau newydd at ei gilydd ar gyfer rhaglen lawn dop o rannu gwybodaeth, ysbrydoliaeth a sgyrsiau sy'n edrych tua'r dyfodol.


Ar thema Chwarae, mae’r rhaglen eleni yn archwilio'r syniadau, yr arloesiadau a'r heriau sy'n siapio'r byd animeiddio heddiw – o strategaethau cynnwys digidol-yn-gyntaf a datblygu ffilmiau nodwedd, i gamu i greu gemau ac ymdrin â realiti bywyd llawrydd.


Meddai Cyfarwyddwr yr Ŵyl, Lauren Orme: “Diwrnod Diwydiant CAF yw ein cyfle i ddod at ein gilydd fel sector, i rannu gwybodaeth, ac i daclo'r heriau mwyaf cyfredol mae'r byd animeiddio yn eu hwynebu. Rydyn ni wedi dylunio'r diwrnod i fod yn hygyrch, yn fforddiadwy, ac i amlygu cyfleoedd – yn ofod lle mae pobl ar bob cam o'u gyrfa yn gallu dysgu, cysylltu, a theimlo'n llawn ysbrydoliaeth am ddyfodol ein diwydiant.”



Mae'r diwrnod yn agor gyda phrif anerchiad chwareus gan yr animeiddiwr, darlunydd, crefftwr, ac awdur sydd wedi cyrraedd rhif 1 yn y New York Times, Philippa Rice, a fydd yn rhannu ei myfyrdodau ar gymryd risgiau creadigol, chwilfrydedd, a gwerth cadw chwarae wrth galon eich arfer.


Bydd y gwneuthurwr ffilm Will Anderson, sydd wedi ennill gwobr BAFTA, a Camilla Deakin, Rheolwr Gyfarwyddwr a Chynhyrchydd yn stiwdio Lupus Films, sydd wedi ennill gwobr Emmy, yn edrych ar y cwestiwn: Beth sydd wir ei angen i ddatblygu ffilm nodwedd animeiddiedig yn niwydiant Prydain heddiw? Gyda mwy o stiwdios yn archwilio adrodd straeon ar ffurf hir, bydd eu hastudiaethau achos gonest yn trafod y daith o'r syniad i'r sgrin – o gyllid datblygu i gyflwyno i'r marchnadoedd, cyd-gynyrchiadau a realiti cael ffilm nodwedd ar waith.



Bydd yr ymgynghorydd dosbarthu byd-eang Laura Taylor‑Williams yn cymedroli panel ar gyrraedd cynulleidfaoedd drwy lwyfannau digidol – gan archwilio modelau amrywiol, llwybrau ariannu, strategaethau crewyr, a'r gwahanol ddulliau mae pobl yn eu defnyddio mewn tirlun sy'n esblygu.

Bydd sylfaenydd a chyfarwyddwr Copa Gaming, Osian Williams, sy'n byw yng Nghaerdydd, yn rhannu sut gall stiwdio fach arbenigol yng Nghymru adeiladu Eiddo Deallusol sy'n gallu cystadlu ar lwyfan byd-eang, a pham gall cofleidio diwylliant lleol eich gosod ar wahân ar lwyfan byd-eang.


Mae Jon Rennie o Cloth Cat yn cynnig golwg tu ol i'r llen o The Ghost of Midwinter, gan gynnwys ei biblinell Moho, y dull ariannu arloesol, cynhyrchu'n ddwyieithog yn y Gymraeg a Saesneg, a'r model hyfforddi a helpodd animeiddwyr newydd i ennill sgiliau newydd a’u credydau darlledu cyntaf.



Bydd sesiwn ymarferol Pecyn Cymorth Llawrydd gyda CULT Cymru yn cefnogi gweithwyr animeiddio sy'n dechrau yn y diwydiant ac yn trafod llywio marchnad sy'n newid.


Bydd panel Cwrdd â'r Comisiynwyr yn rhoi cyfle i glywed pa gyfleoedd comisiynu sydd ar gael, am beth mae darlledwyr yn chwilio ar hyn o bryd, a beth sy'n gwneud i syniadau sefyll allan.


Ochr yn ochr â'r sgyrsiau, gall y rhai sy'n bresennol fanteisio ar gyfarfodydd un i un, adolygiadau portffolio, egwyliau coffi a chinio rhwydweithio ymlaciol – digonedd o gyfleoedd i gysylltu, cydweithio, a sbarduno syniadau newydd. Mae eich Pas Diwrnod Diwydiant yn cynnwys mynediad at yr holl sgyrsiau a phaneli, sesiynau un i un i’w harchebu, diod poeth, a chinio.


Cefnogir Gŵyl Animeiddio Caerdydd 2026 gan Lywodraeth Cymru drwy Digwyddiadau Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol, Chapter, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol, Ffilm Cymru Wales a Rhwydwaith y BFI gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol, Ymddiried drwy Gronfa Ysgoloriaeth Owen Edwards. Noddir Gŵyl Animeiddio Caerdydd 2026 gan Brifysgol De Cymru, Cloth Cat a Beryl Productions.


 
 
 

Comments


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square

Sign up to our mailing list:

CARDIFF ANIMATION FESTIVAL:
  • EMAIL
  • Instagram
  • Facebook
  • Discord
  • TikTok
CARDIFF ANIMATION NIGHTS:
  • EMAIL
  • Facebook
  • Instagram
SUPPORT US VIA PATREON:
Patreon.png

© 2O25 by CARDIFF ANIMATION FESTIVAL

BAFTA Festival Stamp - Positive.png
BAFTA23_Qualifyingfeststamp_neg_white.png
bottom of page