#CAF26 Rhaglen Lawn!
- 22 hours ago
- 4 min read
Caerdydd, Cymru – dydd Mercher 11 Mawrth – Heddiw, mae’r unig ddigwyddiad animeiddio byd-eang yng Nghymru, sef Gŵyl Animeiddio Caerdydd (CAF), wedi cyhoeddi ei rhaglen lawn ar gyfer 2026 ac mae tocynnau i’r ŵyl nawr ar werth.
Rhwng 23 a 26 Ebrill, bydd Canolfan Gelfyddydau Chapter yn gweddnewid i fod yn ddathliad o animeiddio ym mhob ffurf, ac yn gartref i bedwar diwrnod o ffilmiau, sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau arbennig. Mae’r nawfed ŵyl, sy’n enwog am hyrwyddo gwaith dychmygus a llwyfannu lleisiau amrywiol, yn addo cynnig y rhaglen fwyaf bywiog hyd yma.

Ar y rhestr eleni mae’r animeiddiwr a’r darlunydd enwog o Brydain, Julia Pott (Adventure Time, Summer Camp Island) sy’n byw yn Los Angeles, ochr yn ochr â ffocws ar ffilmiau Japaneaidd gyda dangosiadau arbennig o The Last Blossom a 100 Metre sy’n cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â Gŵyl Kotatsu. Mae CAF hefyd wedi datgelu ei chystadleuaeth ffilmiau byrion fwyaf hyd yma, gyda 98 o ffilmiau wedi'u dewis o blith mwy na 700 o gynigion ac yn cael eu dangos ar sail wyth thema - Chwarae, Oedi, Edrych ’nôl, Distewi, Cartref, Cymysgu, Hwyrnos a Gwaith o Gymru. Y beirniaid eleni yw Pip Williamson, Sarah Schmidt a Nia Edwards-Behi.
Mae'r ŵyl yn ehangu ei darpariaeth gemau, gyda sesiynau gan y timau y tu ôl i Thank Goodness You're Here, sydd wedi ennill gwobr BAFTA®, a The Midnight Walk, sydd wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobr BAFTA®, gydag arddangosfa o gemau y gellir eu chwaraea a phypedau gwreiddiol o'r cynhyrchiad.
Mae CAF 2026 hefyd yn llawn digwyddiadau, perfformiadau a phrofiadau creadigol byw. Gall cynulleidfaoedd neidio i mewn i gyffro’r Frwydr Braslunio, sioe gêm arlunio fyw lle mae artistiaid yn braslunio cymeriadau o'u cof tra bod y gynulleidfa'n rasio i'w dyfalu. Mae’r gwneuthurwr ffilmiau Gerald Conn, sydd wedi ennill gwobr BAFTA® Cymru, yn dod â’i animeiddiad tywod-ar-wydr hudolus i’r llwyfan gyda Tywod ar Sgrin, sy’n cynnwys dangosiadau, animeiddio byw a chipolwg ar ei ap newydd, Sandimation. A bydd Super Mario Kart yn llenwi’r sgrin fawr gyda Ras y Rainbow Road, gornest aml-chwaraewr fawr a gynhelir gan yr artist amlddisgyblaethol, yr animeiddiwr a’r crëwr cynnwys YouTube Jamie Fern Hensley-Davies.

Mae’r Diwrnod Diwydiant llawn dop yn cynnwys prif anerchiad gan Philippa Rice, sesiwn cychwyn gyrfa gyda Copa Gaming, a phaneli ar gomisiynu, datblygu ffilmiau nodwedd, adrodd straeon digidol yn gyntaf a gwaith llawrydd, gan ei wneud yn ddigwyddiad hanfodol i unrhyw un sy'n gweithio yn y sector neu sy'n ymuno â’r sector. Mae'r ŵyl hefyd yn cynnwys cydweithrediad â Gŵyl Abertoir, gan gynnwys dangosiad a sesiwn holi ac ateb yn datgelu hanes cudd effeithiau animeiddio mewn sinema arswyd, yn ogystal â chyflwyniad o animeiddiad Ray Harryhausen yn y ffilm greaduriaid glasurol The Beast from 20,000 Fathoms. Bydd Dr Stacey Abbott yn archwilio sut mae'r genre wedi dibynnu ar dechnegau animeiddio ers dros ganrif. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys perfformiad byw gan Casi Wyn, Efa Blosse-Mason a Lleucu Non - digwyddiad arbennig yn dathlu cydweithio, creadigrwydd a chwarae gan genhedlaeth newydd o artistiaid o Gymru sy'n gweithio ar draws animeiddio a cherddoriaeth. Ac yn olaf dangosiad arbennig o Little Amélie, or the Character of Rain, a enwebwyd am Wobr Academi® am y Ffilm Nodwedd Animeiddiedig Orau.
Meddai Cyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Caerdydd, Lauren Orme: “Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn ymwneud â dod â phobl at ei gilydd drwy animeiddio, ac mae’r ŵyl eleni’n cynnig y rhaglen fwyaf chwareus a llawn hyd yma. Mae gennym ni ffilmiau hyfryd, gwesteion gwych, perfformiadau byw, gweithdai creadigol a sypreisys annisgwyl. P'un a ydych chi'n ffan o animeiddio, yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant, yn animeiddiwr ifanc, yn hoff o ffilmiau neu’n chwilfrydig amdanyn nhw, mae croeso i chi ymuno â ni yn Chapter ym mis Ebrill a phrofi llawenydd animeiddio.”
Bydd partïon a digwyddiadau cymdeithasol yn cynnig cyfle i ddod â'r gymuned ynghyd drwy gydol y penwythnos, gan gynnwys carioci animeiddio a gynhelir gan Justin Drag a noson ffilmiau byrion wedi'u curadu gan Malt Adult o Chicago.
Mae gweithdai yn dychwelyd drwy gydol yr ŵyl, gan gynnig hwyl creadigol ymarferol i bobl o bob oed. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys sesiwn creu modelau gydag Aardman, animeiddio llyfr troi, lluniadu bywyd cŵn, sesiwn dwdlo a chreu murluniau gyda Jamie Stockley, animeiddio tywod gyda Gerald Conn, a gweithdy arbennig gyda Joanna Quinn, a enwebwyd am Wobr Academi®.
Bydd yr ŵyl yn dod i ben ddydd Sul 26 Ebrill gyda 'Gwobrau Goreuon yr Ŵyl', a gynhelir gan Ali Plumb o Radio 1, a fydd yn dathlu'r ffilmiau byrion gorau gyda gwobrau am y Ffilm Fer Orau, y Ffilm Fer Orau gan Fyfyriwr, y Ffilm Ficro Orau, Gwobr Rheithgor Ifanc a Gwobr y Gynulleidfa.
Cefnogir Gŵyl Animeiddio Caerdydd 2026 gan Lywodraeth Cymru drwy Digwyddiadau Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol, Ffilm Cymru Wales a Rhwydwaith y BFI gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol, ac Ymddiried drwy Gronfa Ysgoloriaeth Owen Edwards. Noddir Gŵyl Animeiddio Caerdydd 2026 gan Brifysgol De Cymru, Cloth Cat a Beryl Productions.




































Comments