Official Selection & CAF26 Early Bird Passes On Sale!
- Cardiff Animation Festival
- Feb 2
- 5 min read

Returning for its ninth edition, the festival will once again take over Chapter Arts Centre this April (23-26), bringing a vibrant mix of special screenings, guest speakers and events designed to inspire both industry professionals and animation lovers alike. Renowned not only for championing bold, imaginative storytelling but also for its unwavering commitment to inclusivity, CAF continues to centre underrepresented voices in 2026.
Cardiff Animation Festival Director, Lauren Orme said: “Cardiff Animation Festival has always been about celebrating community and connection through animation, and 2026 is no different. We’ve put together a playful, joyful programme packed with great films, inspiring talks, cosy workshops, inclusive socials, late‑night discoveries, and the return of some festival favourites! We can’t wait to welcome brilliant creators from around the world alongside incredible Wales‑based talent - and we’re so excited to welcome you there.”

Highlights include Julia Pott, the celebrated LA‑based British animator and illustrator known for her work on Adventure Time and as the creator of the Peabody‑ and Emmy‑nominated Summer Camp Island. The programme also features a Japanese feature film focus in collaboration with Kotatsu Japanese Animation Festival, with special screenings of The Last Blossom and 100 Metres, offering a window into contemporary independent 2D animation from Japan.

The festival received its highest ever number of submissions this year - over 700 films from 61 countries - with 98 short films selected for competition. These will be showcased across eight themed programmes, featuring shorts that tell true stories, moments of calm, unusual worlds, Welsh work, and a screening suitable for the whole family to enjoy.
CAF will also spotlight the best in games, with events featuring Pip Williamson, 2D Animator on the BAFTAⓇ‑winning British video game Thank Goodness You’re Here, who will share insights into the making of the hit title. Klaus Lyngeled and Olov Redmalm of Moonhood will also join the programme to discuss The Midnight Walk, their BAFTAⓇ‑nominated stop‑motion horror VR game. An accompanying exhibition will give festival‑goers the chance to play a selection of games and see the original puppets from The Midnight Walk up close.
A series of workshops will run throughout the festival, offering hands‑on creative fun including Aardman model‑making sessions, The Print Haus animated flip‑book workshops, and a special session with Academy AwardⓇ‑nominee Joanna Quinn.

Bringing the festival to a close, the annual ‘Best of the Fest Awards’ will take place on Sunday 26 April, hosted by Radio 1 film critic and animation enthusiast Ali Plumb. The event will round up the weekend’s highlights with interactive elements - including an animation‑themed quiz - before presenting awards for Best Short, Best Student Short, Best Micro Short, the Young Jury Award and the Audience Award.
More events and programme highlights will be announced in the coming weeks. Get your Passes here!
Cardiff Animation Festival 2026 is supported by Welsh Government through Event Wales, Arts Council of Wales / Cyngor Celfyddydau Cymru with funding from the Welsh Government and the National Lottery, Wales Arts International / Arts Council of Wales / Cyngor Celfyddydau Cymru with support from the Welsh Government and the National Lottery, Ffilm Cymru Wales & BFI NETWORK with funding from the National Lottery, and Ymddiried through the Owen Edwards Scholarship Fund. Cardiff Animation Festival 2026 is sponsored by University of South Wales, Cloth Cat and Beryl Productions.

Yn dychwelyd am y nawfed tro, bydd yr ŵyl yn llenwi Canolfan Gelfyddydau Chapter unwaith eto fis Ebrill (23-26), gan gynnig cymysgedd bywiog o ddangosiadau ffilm arbennig, siaradwyr gwadd, a digwyddiadau sydd wedi’u llunio i ysbrydoli’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant a’r rhai sy’n hoff o animeiddio fel ei gilydd. Nid yn unig mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn adnabyddus am hyrwyddo gwaith sy’n adrodd straeon beiddgar a dychmygus, mae hi hefyd yn adnabyddus am ei hymrwymiad diwyro i gynhwysiant, a bydd yn parhau i roi lle canolog i leisiau sy’n cael eu tangynrychioli yn 2026.
Meddai Cyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Caerdydd, Lauren Orme: “Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd wedi dathlu cymuned a chysylltiad drwy animeiddio erioed, ac ni fydd hyn yn newid yn 2026. Rydyn ni wedi llunio rhaglen chwareus a llawen sy’n llawn dop o ffilmiau gwych, sgyrsiau ysbrydoledig, gweithdai cysurus, digwyddiadau cymdeithasu cynhwysol, darganfyddiadau gyda’r hwyr, a bydd rhai o ffefrynnau’r ŵyl yn dychwelyd hefyd! Allwn ni ddim aros i groesawu crewyr gwych o bob rhan o’r byd i ddod ochr yn ochr â doniau o Gymru – ac rydyn ni’n llawn cyffro am gael eich croesawu chi yma.”

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Julia Pott, yr animeiddiwr a’r darlunydd clodwiw o Brydain sy’n byw yn LA, sy’n adnabyddus am ei gwaith ar Adventure Time ac fel crëwr Summer Camp Island – a enwebwyd am wobr Peabody ac Emmy. Yn rhan o’r rhaglen hefyd bydd ffocws ar ffilmiau nodwedd o Japan mewn cydweithrediad â Gŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu, gyda dangosiadau arbennig o The Last Blossom a 100 Metres, gan gynnig cipolwg o fyd animeiddio 2D annibynnol cyfoes Japan.

Cafodd yr ŵyl y nifer uchaf o gyflwyniadau erioed eleni – gyda dros 700 o ffilmiau o 61 o wledydd – ac mae 98 ffilm fer wedi’u dewis ar gyfer y gystadleuaeth. Bydd y rhain yn cael eu harddangos ar draws wyth rhaglen thematig, a fydd yn dangos ffilmiau byrion sy’n rhannu straeon gwir, eiliadau o dawelwch, bydoedd anarferol, gwaith o Gymru, a dangosiad sy’n addas i’r teulu cyfan.
Bydd Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn taflu goleuni ar oreuon byd y gemau hefyd, gyda digwyddiad yn cynnwys Pip Williamson, Animeiddiwr 2D ar y gêm fideo Brydeinig a enillodd wobr BAFTAⓇ Thank Goodness You’re Here, a fydd yn rhannu cipolwg ar y broses o greu’r campwaith. Bydd Klaus Lyngeled ac Olov Redmalm o Moonhood hefyd yn ymuno â’r rhaglen i drafod The Midnight Walk, eu gêm realiti rhithwir stop-symud sydd wedi’i henwebu am wobr BAFTAⓇ. Bydd arddangosfa i gyd-fynd â’r ŵyl yn rhoi cyfle i fynychwyr chwarae detholiad o gemau a chael golwg agos o’r pypedau gwreiddiol o The Midnight Walk.
Bydd cyfres o weithdai drwy gydol yr ŵyl, yn cynnig hwyl creadigol ymarferol, gan gynnwys sesiynau creu modelau Aardman, gweithdai llyfrau troi animeiddiedig Printhaus, a sesiwn arbennig gyda Joanna Quinn a enwebwyd am wobr AcademiⓇ.

I gloi’r ŵyl, bydd y digwyddiad blynyddol ‘Gwobrau Goreuon yr Ŵyl’ nos Sul 26 Ebrill, wedi’i gyflwyno gan y beirniad ffilm o Radio 1 a’r ffan animeiddio Ali Plumb. Bydd y digwyddiad hwn yn crynhoi uchafbwyntiau’r penwythnos gydag elfennau rhyngweithiol – gan gynnwys cwis ar thema animeiddio – cyn cyflwyno gwobrau am y Ffilm Fer Orau, y Ffilm Fer Orau gan Fyfyriwr, y Ffilm Ficro Orau, Gwobr Rheithgor Ifanc, a Gwobr y Gynulleidfa.
Bydd mwy o ddigwyddiadau ac uchafbwyntiau rhaglen yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.
Cefnogir Gŵyl Animeiddio Caerdydd 2026 gan Lywodraeth Cymru drwy Digwyddiadau Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol, Ffilm Cymru Wales a Rhwydwaith y BFI gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol, ac Ymddiried drwy Gronfa Ysgoloriaeth Owen Edwards. Noddir Gŵyl Animeiddio Caerdydd 2026 gan Brifysgol De Cymru, Cloth Cat a Beryl Productions.



























