
Family Events
at Cardiff Animation Festival
Everyone's welcome at CAF – whether you're here with a baby in a sling, exploring with curious primary-aged kids, or attending with an animation-loving teenager. We've curated a range of family events here for different ages. Come as you are.
Digwyddiadau i’r Teulu
yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd
Mae croeso i bawb yn CAF – os ydych chi yma gyda babi mewn sling, yn archwilio gyda phlant chwilfrydig, neu’n dod gydag animeiddiwr brwd yn ei arddegau. Rydyn ni wedi curadu ystod o ddigwyddiadau i’r teulu ar gyfer gwahanol oedrannau. Dewch fel ydych chi.
For Babies & Toddlers
For parents and carers of children under one – our baby-friendly screening is designed with you in mind. An adjusted cinema environment to make it as convenient and comfortable as possible, and no pressure if your baby needs to move, feed, or make noise.
For those with babies and toddlers – drop in to Pen Pals, our all-day collaborative animation activity – a chance to get meet fellow animation lovers, connect, and get creative with your child.
​
You're very welcome to explore our exhibition and check out some stop motion puppets from films and games (parental guidance advised as there will be films for age 12+ and 16+ being played in the exhibition space). Plus One Bum Cinema Club – possibly the smallest cinema in the world, with just enough space for you and your little one.
I Fabanod a Phlant Bach
​​
I rieni a gofalwyr plant dan un – mae ein dangosiad addas i fabanod wedi’i ddylunio gyda chi mewn cof. Bydd amgylchedd y sinema wedi’i addasu er mwyn bod mor gyfleus a chyfforddus â phosib, a does dim pwysau os bydd angen i’ch babi symud, bwydo, neu wneud sŵn.
​
Os oes gennych fabis a phlant bach – galwch heibio i Pen Pals, ein gweithgaredd animeiddio drwy’r dydd – lle bydd cyfle i gysylltu, cwrdd ag eraill sy’n hoff o animeiddio, a bod yn greadigol gyda’ch plentyn.
​
Mae croeso i chi archwilio ein harddangosfa ac edrych ar bypedau stop-symud o ffilmiau a gemau (cynghorir arweiniad rhieni gan y bydd ffilmiau ar gyfer plant 12+ ac 16+ oed yn cael eu chwarae yng ngofod yr arddangosfa). Hefyd bydd One Bum Cinema Club – y sinema leiaf yn y byd o bosib, gyda dim ond digon o le i chi a’ch plentyn.
CARRY ON SCREAMING: LITTLE AMELIE OR THE CHARACTER OF RAIN (BABY-FRIENDLY)
FEATURE | Fri 24 April | 11:05am
£7/9 or included in Festival Pass
A visually enchanting tale about curiosity, courage, and the healing
power of human connection.​
Chwedl hudolus am chwilfrydedd, dewrder, a phŵer iachusol cysylltiad dynol.
PEN PALS
DROP-IN ACTIVITY | Chapter Cinema Foyer | Thu–Sun | Free | Am Ddim
Drop in anytime during the day and colour a frame of the #CAF26 poster for our collaborative animation
Galwch heibio unrhyw bryd yn ystod y diwrnod i liwio ffrâm o boster #CAF26 ar gyfer ein hanimeiddiad cydweithredol
For Pre-School & Primary-Aged Children
​
Our events for younger children invite curiosity and imagination, with films and hands-on activities to do together. Designed to be engaging, relaxed, and fun for kids and for their grown-ups.
​​
Share a magical nostalgic cinema experience with your kids on Saturday afternoon with CAF's special screening of The Pagemaster (it's a U but be warned, there are some scary moments for sensitive viewers!). On Sunday afternoon, check out Little Amelie – a visually enchanting tale about curiosity, courage, connection, and the power of chocolate!
Family Shorts is great for kids who love variety – independent films from around the world, each just a few minutes long. With a Friday after-school showing and a Sunday morning showing to choose from, it's recommended for age 6+ but younger children are very welcome.
​​​
If your kids love getting stuck in, there are plenty of ways to make and explore. Join an Aardman workshop (for ages 8+) to create your own Shaun the Sheep or Gromit. And there are drop-in creative activities for all ages throughout the festival – from flip book making with The Printhaus, to Pen Pals, which invites children and grown-ups to colour in an animation frame to be part of creating a collaborative animation. Plus drop into One Bum Cinema Club – possibly the smallest cinema in the world, showing family-friendly animation every day before 8pm.
Ar gyfer Plant Oedran Cyn Ysgol ac Ysgol Gynradd
​
​Mae ein digwyddiadau ar gyfer plant iau yn gwahodd chwilfrydedd a dychymyg, gyda ffilmiau a gweithgareddau ymarferol i’w gwneud gyda’ch gilydd. Wedi’u dylunio i fod yn ddiddorol, yn ymlaciol, ac yn hwyl i blant a’u hoedolion.
​
​Rhannwch brofiad sinema hiraethus a hudolus gyda’ch plant ar brynhawn Sadwrn gyda dangosiad arbennig CAF o The Pagemaster (ffilm U yw hi, ond mae yna rannau brawychus i wylwyr sensitif!). Ar brynhawn Sul, beth am wylio Little Amelie – chwedl weledol hudolus am chwilfrydedd, dewrder, cysylltiad, a phŵer siocled!
​
Mae Ffilmiau Byrion i’r Teulu yn wych ar gyfer plant sy’n hoff o amrywiaeth – ffilmiau annibynnol o bob rhan o’r byd, pob un yn ychydig funudau o hyd. Bydd dangosiad ar ôl ysgol ddydd Gwener neu ddangosiad fore Sul, ac fe’i hargymhellir ar gyfer plant 6+ oed, ond mae croeso i blant iau hefyd.
​
​​​Os oes dwylo prysur gan eich rhai bach, mae digonedd o ffyrdd i greu ac archwilio. Ymunwch â gweithdy Aardman (ar gyfer plant 8+) i greu eich Shaun the Sheep neu Gromit eich hunan. Ac mae gweithgareddau creadigol galw heibio ar gyfer pob oed drwy gydol yr ŵyl – o greu llyfrau troi gyda’r Printhaus, i Pen Pals, sy’n gwahodd plant ac oedolion i liwio ffrâm animeiddio er mwyn bod yn rhan o’r gwaith o greu cyd-animeiddiad. Galwch heibio hefyd i One Bum Cinema Club – y sinema leiaf yn y byd o bosib, sy’n dangos animeiddiad addas i’r teulu bob dydd cyn 8pm.
FAMILY SHORTS (6+)
SHORT FILMS | Fri 24 April 4:40pm
+ Sun 26 April, 11:10am
£7/9 or included in Festival Pass
Animated short films for the whole family!
Ffilmiau byrion animeiddiedig i’r teulu cyfan!
PEN PALS
DROP-IN ACTIVITY | Chapter Cinema Foyer | Thu–Sun | Free | Am Ddim
Drop in anytime during the day and colour a frame of the #CAF26 poster for our collaborative animation
Galwch heibio unrhyw bryd yn ystod y diwrnod i liwio ffrâm o boster #CAF26 ar gyfer ein hanimeiddiad cydweithredol
For Tweens & Teens
​​​
Whether they're dipping into the festival independently, or you're coming along together as a family, there's loads for tweens and teens to watch, make, play and do at CAF.
​
For anime-lovers, check out 100 Metres, a mesmerising film about the physical and spiritual highs of athletics.
Our short film programmes give older kids and teenagers a chance to see some of the best new independent animation being created around the world.
Visit our exhibition and gaming space to meet the puppets behind stop-motion films and games – and try out games including The Midnight Walk (12+) and Thank Goodness You’re Here! (15+). Take part in the Rainbow Road Rumble and play Mario Kart on the big screen, or step inside the One Bum Cinema Club – possibly the smallest cinema in the world.
​
For those who like to make, there are Doodle Mural Workshops (where drawing on the walls is actively encouraged!), flip book making workshops, and drop-in activities. Our sand animation sessions offer a chance to learn from one of the world's leading sand animators (who happens to be based in Cardiff!) and try it out for yourselves.
​
There are also opportunities to hear directly from artists and creators. Older teens (15+) can see behind the scenes of games The Midnight Walk and Thank Goodness You’re Here! – and for lovers of Adventure Time and Summer Camp Island, we're delighted to welcome creator Julia Pott, all the way from LA.
Ar Gyfer Arddegwyr a Chyn-arddegwyr
​
Os ydyn nhw’n dod i’r ŵyl yn annibynnol, neu os byddwch chi’n dod gyda’ch gilydd fel teulu, mae llwyth o bethau i arddegwyr a chyn-arddegwyr i wylio, creu, chwarae a gwneud yn CAF.
​
​I’r rhai sy’n hoff o anime, gwyliwch 100 Metres, ffilm hudolus am uchelfannau corfforol ac ysbrydol athletau.
​
Mae ein rhaglenni ffilmiau byrion yn rhoi cyfle i blant hÅ·n ac arddegwyr weld y gwaith animeiddio annibynnol gorau sy’n cael ei greu ledled y byd.
​
Dewch i’n harddangosfa a’n gofod gemau i gwrdd â’r pypedau tu ôl i ffilmiau a gemau stop-symud – rhowch gynnig ar gemau fel The Midnight Walk (12+) a Thank Goodness You’re Here! (15+). Cymerwch ran yn Ras y Rainbow Road a chwarae Mario Kart ar y sgrin fawr, neu camwch i mewn i Glwb Sinema One Bum – y sinema leiaf yn y byd o bosib.
​
​Ar gyfer y rhai sy’n hoffi creu, mae yna Weithdai Dwdlo Murlun (lle rydyn ni’n annog arlunio ar waliau!), gweithdai creu llyfr troi, neu weithgareddau galw heibio. Mae ein sesiynau animeiddio tywod yn cynnig cyfle i ddysgu gan un o brif animeiddwyr tywod y byd (sy’n digwydd bod yn byw yng Nghaerdydd) a rhoi cynnig arno eich hunain.
Mae cyfleoedd i glywed gan artistiaid a chrewyr hefyd.
Gall arddegwyr hÅ·n (15+) weld tu ôl i’r llen i gemau fel The Midnight Walk a Thank Goodness You’re Here! – ac i’r rhai sy’n hoff o Adventure Time a Summer Camp Island, byddwn ni’n croesawu’r crëwr Julia Pott yr holl ffordd o LA.
EXHIBITION: PLAY
EXHIBITION | First Space
Fri 24 - Sun 26 April | Free | Am Ddim
You’re seeing the talks – now you can play the games, and meet the puppets!
Rydych chi’n gweld y sgyrsiau – nawr gallwch chwarae’r gemau, a chwrdd â’r pypedau!
PEN PALS
DROP-IN ACTIVITY | Chapter Cinema Foyer | Thu–Sun | Free | Am Ddim
Drop in anytime during the day and colour a frame of the #CAF26 poster for our collaborative animation
Galwch heibio unrhyw bryd yn ystod y diwrnod i liwio ffrâm o boster #CAF26 ar gyfer ein hanimeiddiad cydweithredol
SAND ON SCREEN
WITH GERALD CONN
TALK | Sat 25 April - 11:30am | Chapter C1
£7/9 or included in Festival Pass
Discover the granular skills used in animating sand with Cardiff director Gerald Conn.​
Dysgwch am y sgiliau manwl sydd eu hangen ar gyfer animeiddio tywod gyda’r cyfarwyddwr o Gaerdydd, Gerald Conn.
MAKING MAGIC WITH JULIA POTT
TALK | 3:15pm | Chapter C1
£7/£9 or included in Festival Pass
Julia Pott shares insights from her career from directing animated shorts to creating
Summer Camp Island.
Mae Julia Pott yn rhannu hanes ei gyrfa, o gyfarwyddo ffilmiau byrion animeiddiedig i greu Summer Camp Island.
ONE BUM CINEMA CLUB
SHORT FILMS | Chapter Main Foyer
Thu-Sun | Free | Am Ddim
One Bum Cinema club presents an eclectic screening of short animated
works by Will Anderson.
Mae Clwb Sinema One Bum yn cyflwyno dangosiad eclectig o waith animeiddiedig byr gan Will Anderson.
Online Events
​​
Want to join in from home? We've got plenty of online events for young people too.
​
Family Shorts is great for kids who love variety – independent films from around the world, each just a few minutes long. With a Friday after-school showing and a Sunday morning showing to choose from, it's recommended for age 6+ but younger children are very welcome.
​
A chilled workshop with JAMIEvstheVOID allows tweens and teens to get creative with music.
​
Our short film programmes give young people a chance to see some of the best new independent animation being created around the world.
​
And for those who want to dive deeper, we've got talks on making sound and music for animation with Phil Brookes, creating 2D game Cuphead with Tina Nawrocki, and hand-drawn animation with legendary animator Joanna Quinn.
Digwyddiadau Ar-lein
​​
Eisiau ymuno o adre? Mae digonedd o ddigwyddiadau ar-lein ar gael i bobl ifanc hefyd.
​
Mae Ffilmiau Byrion i’r Teulu yn wych ar gyfer plant sy’n hoff o amrywiaeth – ffilmiau annibynnol o bob rhan o’r byd, pob un yn ychydig funudau o hyd. Bydd dangosiad ar ôl ysgol ddydd Gwener neu ddangosiad fore Sul, ac fe’i hargymhellir ar gyfer plant 6+ oed, ond mae croeso i blant iau hefyd.
​
Mae gweithdy ymlaciol gyda JAMIEvstheVOID yn annog arddegwyr a chyn-arddegwyr i fod yn greadigol gyda cherddoriaeth.
​
Mae ein rhaglenni ffilmiau byrion yn rhoi cyfle i bobl ifanc weld y gwaith animeiddio annibynnol gorau sy’n cael ei greu ledled y byd.
​
Ac i’r rhai sydd eisiau golwg ddyfnach, mae ganddon ni sgyrsiau ar greu sain a cherddoriaeth ar gyfer animeiddio gyda Phil Brookes, ar greu’r gêm 2D Cuphead gyda Tina Nawrocki, ac ar animeiddio llaw gyda’r animeiddiwr chwedlonol Joanna Quinn.
SHORTS 5: HOME
SHORT FILMS | On demand 23 Apr–5 May
Watch Party: Thu 30 Apr 1pm BST
£3-9 or included in Online Pass
Home is more than a building - take comfort in these places that make you feel at home.
Mae cartref yn fwy nag adeilad – cymerwch gysur yn y llefydd sy’n gwneud i chi deimlo’n gartrefol.
SHORTS 6: SHUFFLE
SHORT FILMS | On demand 23 Apr–5 May
Watch Party: Fri 1 May 1pm BST
£3-9 or included in Online Pass
Can’t decide what to watch? Take a chance & you might even find a new favourite film!
Methu penderfynu beth i’w wylio? Mentrwch, a bosib dewch chi o hyd i’ch hoff ffilm newydd!
​
​


















.jpg)













.png)









.png)
.jpg)


