top of page

Cardiff Animation Festival 2020 Postponed


We're so sad to announce that as a result of the Covid-19 crisis we are postponing Cardiff Animation Festival 2020. Chapter, our main venue, took the very difficult decision today to close until 19th April. Even if this hadn't made it impossible for the festival to go ahead as scheduled, we couldn't in good conscience go ahead in April with the current guidance from government advising against attending cinemas and gatherings. We have a responsibility to look after the health of our audiences, filmmakers, guest speakers, partners and our team, which we take really seriously. We know this will be a huge disappointment to everyone who was looking forward to attending the festival. We are so disappointed as well not to be able to bring you the festival as scheduled, after we and our partners have poured so much love and time into planning it. We are working hard to bring you everything we have planned at a later date when it's safe to bring people together again. All tickets and passes will remain valid for rescheduled activity. We will announce rescheduled dates as soon as we can. Please bear with us while we work through everything we have to do to make this happen. The arts is one of many sectors that are going to be hit particularly hard in the coming months, and this will be a really difficult time for many arts organisations, festivals, venues and freelancers working in the sector. If you value the arts then please try to find ways to support them throughout this period. Sending love and best wishes to everyone – stay safe and look after each other. Team CAF



Mae’n drist gorfod cyhoeddi ein bod ni, o ganlyniad i argyfwng Covid-19, yn gohirio Cardiff Animation Festival 2020. Heddiw daeth ein prif leoliad, Chapter, i’r penderfyniad anodd bod yn rhaid cau’r drysau tan 19 Ebrill. Er na fyddai hyn wedi ei gwneud hi’n amhosibl i gynnal yr ŵyl fel y bwriadwyd, fyddai hi ddim yn briodol bwrw rhagddi ym mis Ebrill yn dilyn cyngor y llywodraeth i beidio â mynychu sinemáu a digwyddiadau. Ein cyfrifoldeb ni yw iechyd a lles ein cynulleidfa, ein cynhyrchwyr ffilmiau a’n siaradwyr gwadd, ein partneriaid a’r tîm trefnu - cyfrifoldeb gaiff ei gymryd o ddifrif. Bydd hyn yn siom fawr i bawb oedd yn edrych ymlaen at fynychu’r ŵyl. Mae’n siom i ni hefyd orfod gohirio ar ôl gwaith caled a llafur cariad y tîm a’n partneriaid. Rydyn ni’n gweithio’n barod i aildrefnu’r holl ddigwyddiadau at y dyfodol, pan fydd hi’n ddiogel i bawb ddod at ei gilydd unwaith eto. Bydd pob tocyn unigol a phenwythnos yn ddilys ar gyfer yr aildrefnu, a byddwn ni’n cyhoeddi dyddiadau cyn gynted â phosib. Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio tuag at wireddu hyn. Mae’r celfyddydau yn un o sawl diwydiant fydd yn dioddef yn enbyd dros y misoedd nesaf, a bydd hi’n amser anodd iawn i nifer o sefydliadau, gwyliau, lleoliadau a gweithwyr llawrydd yn y byd celfyddydol. Os ydych chi’n gwerthfawrogi’r celfyddydau, chwiliwch am ffyrdd i’w cefnogi nhw dros y cyfnod i ddod. Gyda chariad mawr a dymuniadau gorau - cymerwch ofal a byddwch garedig. Tîm CAF

Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page