CAF YN CYFLWYNO: FFILMIAU BYR ANIMEIDDIEDIG CWIAR
Ym mis Chwefror, ymunwch â ni i brofi byd bywiog o adrodd straeon cwiar yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter!
Rydym yn cyflwyno mega-gymysgedd dyrchafol o ffilmiau byr animeiddiedig o bob rhan o’r byd, wedi’u cyflwyno gan raglenwyr cwiar Gŵyl Animeiddio Caerdydd i ddathlu Mis Hanes LHDT+.

Mwynhewch adrodd straeon beiddgar, didwyll gan grewyr cwiar sy'n gweithio ar draws pob math o animeiddiad, gan archwilio cariad, trawsnewid, llawenydd cwiar, cysylltiad a pherthyn. O stori garu cyfunrhywiol ar esgidiau rholio i stori dod allan traws (gyda Godzilla) – mae’r ffilmiau hyn yn llythyrau caru at hunanfynegiant, gwydnwch, a chymuned cwiar.
Bydd trafodaeth ar ôl y ffilm hefyd dan ofal Honza Ladman (Tîm CAF).
Dydd Sadwrn 15 Chwefror 2025
5:30pm • Chapter, Caerdydd • £7/£9
Ffilm gydag is-deitlau + Trafodaeth Fyw gyda Chapsiynau

Darganfyddwch fwy o fanylion am raglen Queer Short Films ac archebwch docynnau:
Comments